Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Get Adobe Flash player

Atal y Wasg

Bydd yr Amgueddfa ar gau ddydd Llun, 29/05/2017.

 

 

Mewngofnodi

Cyfres o Sgyrsiau

CYFRES O SGYRSIAU A DIGWYDDIADAU YN AMGUEDDFA RADIOS GWEFR HEB WIFRAU, DINBYCH 2016 – 2017

 

MEDI 2016

Dydd Gwener, 16 Medi, 7 - 10 y.h.   Goronwy Alun Hughes: His extraordinary life remembered.  Siaradwyr: ei gyfeillion.

 

HYDREF 2016

Dydd Gwener, 21 Hydref,   7 - 10 y.h. My Gems Collection. Siaradwr: John Clark

    

 

TACHWEDD 2016

Dydd Gwener, 18 Tachwedd,   7 - 10 y.h. Isaac Roberts: 19th Century Astronomer from Groes. Siaradwr: David Smith, Cymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru

 

 

RHAGFYR 2016

Dydd Gwener, 2 Rhagfyr, 7 - 10 y.h.  Radio Memories and Music and Poetry.  Noson gymdeithasol gyda chyfeillion yr amgueddfa.

 

IONAWR 2017  

 

Dydd Gwener, 20 Ionawr, 7 - 10 y.h.  Noson y Curadur. Radio Luxembourg, 1933-1945. Siaradwr: David S Crawford

 

CHWEFROR 2017

 

Dydd Gwener, 17 Chwefror,   7 -10 y.h.  Pharmacy in Victorian Times.  Siaradwr: Sue Clark

 

MAWRTH 2017

 

Dydd Gwener, 17 Mawrth, 7 -10 y.h.  Darlith flynyddol David Edward Hughes.  Menai Science Park.  Siaradwr: Ieuan Wyn Jones

 

 

EBRILL 2017

 

Dydd Gwener, 21 Ebrill, 7 -10 y.h.  The Struggle for the Radio became a struggle for creating a Nation.  Siaradwr: Eifion Lloyd Jones

 

 

MAI 2017

 

Dydd Gwener, 19 Mai, 7 - 10 y.h. A Visit to C.E.R.N. in Switzerland.  Siaradwr: Steffan Tudor

 

MEHEFIN 2017

 

Dydd Gwener, 16 Mehefin, 7 - 10 y.h. Talking to the World: The world of Amateur Radio.  Siaradwyr, ag arddangosiadau gan Amaturiaid Radio yr Amgueddfa.  

 

Dylid cyfeirio at y wefan am fwy o wybodaeth

BoreCoffi

Diweddariad misol, Ebrill 2017.

Diweddariad misol, Ebrill 2017.   

 

Ar Chwefror 17eg, daeth tyrfa fawr i’r Amgueddfa i wrando ar Sue Clark yn siarad am ‘Lewis a Clark yn dilyn Lewis a Clark’.  Roedd hi a’i gwr wedi bod ar wyliau yn America gyda ffrindiau â’r cyfenw ‘Lewis’ pan sylwon nhw ar hysbyseb o Ddauganmlwyddiant Taith Meriwether Lewis a William Clark yn 1804-1806 i geisio cyrraedd arfordir gorllewinol Gogledd America o St. Louis.  Roedd rhaid i’r Lewis a Clark gwreiddiol ddilyn yr afon Missouri a theithio trwy filoedd o filltiroedd o diroedd peryglus, oedd heb eu mapio,.  Dewiswyd 33 o bobl i fod yn y tîm a buon nhw’n gweithio yn ddiwyd yn cofnodi, enwi, labelu a mapio popeth a welon nhw.  Creon nhw berthynas dda gyda’r llwythau ‘Indiaid’ brodorol, ond dirywiodd y berthynas honno yn hwyrach wrth i Americanwyr y dyfodol symud i’r ardaloedd.  

Ar ôl gweld yr hysbyseb, penderfynodd Sue, John a’u ffrindiau ddychwelyd i America yn 2004 a dilyn yr un daith o St. Louis i arfordir y gorllewin.  Teithion nhw trwy leoedd a enwid gan y teithwyr gwreiddiol a chofnodon nhw’r cyfan mewn erthygl wythnosol i bapur lleol y ‘Seaside Signal’.  Cafwyd blas o’r antur a’r golygfeydd anhygoel yng nghyflwyniad Sue.

 

Dyma lun dau radio arall o’r casgliad a dderbyniom yn yr Amgueddfa yn ddiweddar.  Mae’r un ar y chwith yn radio falf cludadwy a wnaethpwyd gan EcKo yn y 50au ac mae ganddo ddeial tiwnio gwydr anarferol iawn.  Mae’r radio ar y dde yn radio transistor cludadwy o’r 60au cynnar a wnaethpwyd gan Bush yn y DU.  Mae ei gyflwr yn berffaith, bron fel newydd.  Dim ond bandiau LW a MW mae’r ddau radio yn eu derbyn.

 

Digwyddiadur Gwefr heb Wifrau:

Ebrill 21ain, 19.00 - Bydd Eifion Lloyd Jones yn cyflwyno darlith Saesneg ar y testun a gafwyd yn Gymraeg y llynedd, ‘Brwydr Dechrau Radio yn Frwydr Creu Cenedl’.

Ebrill 28ain, 19.00 - Noson i wylio ‘I Daniel Blake’, ffilm o 2016 sy wedi ennill nifer o wobrau,  yn y Clwb Ffilmiau yn Theatr Twm o’r Nant.  Noson i godi arian i Gwefr heb Wifrau fydd hon.

Mai 19eg, 19.00 – Bydd Steffan Tudor yn siarad yn Saesneg am ei Ymweliad â C.E.R.N. yn y Swistir.  Cyflwynodd y ddarlith yma yn Gymraeg yn yr Amgueddfa y llynedd.

Mai 20fed, 13.00-16.00 - Diwrnod Agored Gwefr heb Wifrau, fel rhan o Wyl Gwanwyn 2017.  Mae’r Wyl yn wyl genedlaethol sy’n dathlu creadigrwydd ymhlith pobl hyn ac mae’n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mehefin 3ydd, 10.00-12.00 - Bore Coffi Gwefr heb Wifrau gydag elusennau eraill yn Eirianfa.

Croeso cynnes i bawb. 

Diweddariad Misol, Mawrth 2017

Diweddariad Misol, Mawrth 2017

 

Ar Ionawr 20fed, cynhaliwyd Noson y Curadur yn yr Amgueddfa, pan siaradodd David Crawford ar ‘Radio Luxembourg 1932-1945’.  Mae’r cyfnod hwn yn gyfnod sy’n tueddu i gael ei anghofio ym maes darlledu, ond roedd yn gyfnod pwysig yn natblygiad radio masnachol cyn yr Ail Ryfel Byd.  Yn 1931 sefydlodd Capten Plugge yr IBC, y Cwmni Darlledu Rhyngwladol, yn Ffrainc a noddwyd y rhaglenni gan gwmnïau masnachol, yn cynnwys gwerthwyr siocled a chynhyrchwyr sebon.  (Yn ddiddorol iawn, dyma wreiddyn y dywediad Saesneg am hysbysebu, ‘rhoi Plug i rywbeth’.)  Yn hwyrach, penderfynodd grwp o ddynion busnes o Luxembourg a Ffrainc gychwyn gorsaf radio a’i enwi yn ‘Radio Luxembourg’.  Roedd y rhaglenni o’r ddwy ffynhonnell yma yn boblogaidd iawn yn y Deyrnas Unedig, gan eu bod yn wahanol i gynnyrch arferol y BBC ar y pryd.  Daeth yr IBC i ben yn 1940, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Radio Luxembourg i ddarlledu propaganda gan Arglwydd Haw-Haw ar ran yr Almaen.  Ar ôl y Rhyfel, ail-gychwynnodd Radio Luxembourg fel radio masnachol, yn darlledu dros Ewrob yn Ffrangeg a Saesneg.  Ceir ail ran y ddarlith, ‘Radio Luxembourg 1945-2017’ yn yr Amgueddfa ar Fehefin 16eg.

 

 

 Ar Chwefror 13eg, daeth Sefydliad y Merched, Trefnant, i weld Casgliad yr Amgueddfa.  Yn ogystal, cawson nhw sgwrs gan Sue Griffith am ei mam, Doris Hare.  Actores, cantores, dawnswraig amryddawn iawn o Fargoed, Morgannwg, oedd Doris Hare ac roedd yn enwog am ei gwaith mewn ffilmiau ac ar lwyfan, yn nramâu Shakespeare ac, yn fwyaf arbennig, yn y rhaglen gomedi ‘On the buses’ ar y teledu.  Derbyniodd hi Wobr Arbennig gan Glwb y ‘Royal Variety’ yn 1982 am ei chyfraniad enfawr i Fyd y Sioe.  Yn ystod y prynhawn dangoswyd ffilm ohoni yn agor Modurdy Smithfield yn Ninbych yn 1949.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ddiweddar, mae Amgueddfa Gwefr heb Wifrau wedi derbyn rhodd gyffrous iawn, sef nifer o radios transistor cludadwy o’r 50au hwyr/60au cynnar, sydd bron fel newydd.  Yn y llun, ar y chwith, gwelir Radio Transistor Cludadwy Pye o 1957.  Dyma’r ail fath o Radio Transistor a gynhyrchwyd yn y DU.  (Gwnaethpwyd y math cyntaf gan Pam.)  Radio Transistor Cludadwy Roberts RT1 o 1958 yw’r radio ar y dde, y radio cludadwy cyntaf i’w gynhyrchu gan Roberts.  £17 oedd y pris.

 

 

 

 

 

 

 

Digwyddiadur Gwefr heb Wifrau:

Mawrth 17eg, 19.00 - Darlith flynyddol David Edward Hughes, pan fydd Ieuan Wyn Jones yn siarad am ‘Parc Gwyddoniaeth Menai’.

Ebrill 21ain, 19.00 - Bydd Eifion Lloyd Jones yn cyflwyno darlith Saesneg ar y testun a gafwyd yn Gymraeg y llynedd, ‘Brwydr Dechrau Radio yn Frwydr Creu Cenedl’.

Ebrill 28ain, 19.00 - Noson i wylio ‘I Daniel Blake’, ffilm o 2016 sy wedi ennill nifer o wobrau,  yn y Clwb Ffilmiau yn Theatr Twm o’r Nant.  Noson i godi arian i Gwefr heb Wifrau fydd hon.

Croeso cynnes i bawb.

 

Diweddariad misol, Chwefror 2017.

Diweddariad misol, Chwefror 2017.

 

 

 

Mae 2017 yn flwyddyn i gofnodi llawer o benblwyddi yn y byd darlledu.

 

Yn 1907, dyfeisiwyd falf mwyhadur (“amplifier valve”) yn UDA a chaniataodd hyn fwyhau tonnau sain a thonnau radio am y tro cyntaf.

Ar Ionawr 1af, 1927, newidiwyd y BBC o fod yn gwmni darlledu masnachol oedd yn darparu radio ar draws y DU i fod yn gorfforaeth, trwy Siarter Brenhinol.

Yn 1937 crëwyd Rhanbarth Cymru gan y BBC er mwyn rhoi hunaniaeth darlledu gwahanol i Gymru.  Cyn hyn, roedd Cymru yn rhan o ranbarth Gorllewin Lloegr a byddai rhaglenni Cymraeg yn cael eu darlledu i’r rhan honno o Loegr, yn ogystal â Chymru.

Yn 1947 dyfeisiwyd y transistor yn UDA a dyma ddechrau’r byd electronig rydym yn byw ynddo heddiw.

 

Yn 1957 lansiwyd Sputnik, y lloeren gyntaf i droi o gwmpas y ddaear, gan Rwsia.  Darlledwyd y signal radio cyntaf o’r gofod oddi wrthi a dyma ddechreuad datblygu lloerenni’r presennol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn 1967 cafwyd y darllediad teledu lliw cyntaf ar BBC2 ar Orffennaf 1af.  Y rhaglenni cyntaf oedd Pencampwriaeth Tenis Wimbledon.

 

Yn 1967 daeth y Ddeddf Troseddau Morol i rym er mwyn cau’r holl orsafoedd radio anghyfreithlon oedd yn darlledu tu allan i Ddyfroedd y DU, ac eithrio Radio Caroline a barhaodd am ryw flwyddyn arall.  Roedd y galw am gerddoriaeth boblogaidd yn dal i fodoli ac felly caniataodd Llywodraeth San Steffan i’r BBC greu Radio 1 a Radio 2 yn 1967.  Radio 1 yw’r orsaf radio fwyaf poblogaidd yn y byd erioed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar Ionawr 3ydd, 1977, lansiwyd Radio Cymru er mwyn rhoi gorsaf iaith Gymraeg i Gymru.  Hon oedd yr unig orsaf yn y DU a ddarlledai ar FM yn unig ar y pryd.  “Helo Bobl” gyda Hywel Gwynfryn oedd y rhaglen gyntaf am 7.00 y bore a “Ffrindiau bore oes” Hergest oedd y record gyntaf.  (Cychwynnwyd Radio Wales a Radio Scotland yn 1978.)

 

 

 

 

 

 

 

Ar Dachwedd 1af, 1982, 35 o flynyddoedd yn ôl, lansiwyd S4C, Sianel Pedwar Cymru, a ddarlledai 22 awr o raglenni Iaith Gymraeg yr wythnos, ynghyd â rhaglenni Saesneg o wasanaeth Sianel 4.  Cyn hyn darlledwyd nifer o raglenni Cymraeg ar BBC1 ac ITV.  Yn y 70au penderfynodd Llywodraeth San Steffan fod angen pedwaredd sianel at y dair oedd yn bodoli eisoes, BBC 1, BBC2 ac ITV a bu ymgyrchu dwys i gael sianel oedd yn arbennig i Gymru.  Erbyn heddiw mae S4C ar gael ar Freeview, Sky, Virgin, Freesat, ar-lein ac ar Ap.

 

 

 

 

 

 

Yn 1992, 25 o flynyddoedd yn ôl, cychwynnwyd Classic FM, gorsaf radio fasnachol genedlaethol i ddarlledu cerddoriaeth glasurol.

 

Yn 1997, lansiwyd Sianel 5, gorsaf deledu fasnachol i’r DU.

 

 

Dyma’r diweddaraf yn ein cyfres o ddarlithiau yn yr Amgueddfa ar nos Wener am 7 o’r gloch:

Chwefror 17eg,  “Lewis a Clark yn dilyn Lewis a Clark”, hanes Thomas Jefferson yn darganfod Tramwyfa’r Gogledd-Orllewin yn 1802, gan Sue Clark, yn Saesneg.

Mawrth 17eg, Darlith flynyddol David Edward Hughes, “Parc Gwyddoniaeth Menai” gan Ieuan Wyn Jones, yn ddwyieithog.

 

Ar hyn o bryd, mae’r Amgueddfa yn chwilio am Record 16 rpm a Record Quadrophonic ar gyfer eu casgliad o Hen Recordiau.  Oes ‘na rai yn Ninbych tybed?

 

 

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu amlygu.

 

17/06/3026 Hyfforddiant gwirfoddolwyr  - Technoleg iBEACON , HWB Dinbych.

 

17/06/2016 Datblygiadau yn y diwydiant glo ers y 1970au, Richard Thompson, peiriannydd mwyngloddio (drwy gyfrwng y Saesneg)

 

23/06/2016 Hyfforddiant gwirfoddolwyr  - Castell Caernarfon

 

01/07/2016 Sgwrs gan Ioan Talfryn i'w hail drefnu yn ddiweddarach.

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo