Yr amgueddfa radio gymreig
Mae Gwefr heb Wifrau yn ymddiriedolaeth elusennol ac yn amgueddfa radio fechan, wahanol. Mae ein pwyslais ar hanes darlledu yng Nghymru, dylanwad darlledu ar ein hunaniaeth genedlaethol a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad technoleg ddi-wifr yn gwneud yr amgueddfa yn unigryw. Mae gennym gasgliad diddorol o hen offer radio a llyfrau, yn ogystal ag arddangosfeydd addysgol a chynhwysfawr. Sail yr Amgueddfa yw casgliad y diweddar David Evan Jones ac fe'i hagorwyd ychydig o wythnosau ar ôl ei farwolaeth yn 2008.
Cawsom ein hachredu am yr ail waith gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru ym Mai 2018.
Mae'r amgueddfa ar agor Ddydd Gwener, 11.00-15.00, ac ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis, 11:00-15:00. Rydym yn croesawu ymweliadau grwp a phreifat ar adegau eraill, drwy apwyntiad, drwy gydol y flwyddyn.
Mae Gwefr heb Wifrau yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, yn cynnwys mynediad trwy'r adeilad i gadeiriau olwyn, dolen glywed ac arddangosion sy'n ddiogel i'w trin. Mae gan ein staff hyfforddiant a phrofiad o ofalu am ymwelwyr ag anableddau.
Diweddariad misol, Tachwedd 2019.
Cychwynnwyd cyfres ddarlithiau 2019-2020 gyda sgwrs gan Dr. Frank Nicholson ar “Beth mae rhewlifoedd wedi ei wneud i ni?” Testun amserol iawn ar ôl angladd rhewlif Okjokull yng Ngwlad yr Iâ ym mis Awst ac ar union ddiwrnod y brotest byd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd o dan arweiniad Greta Thunberg a phobl ifanc. Dangosodd Dr. Nicholson luniau hyfryd o rewlifoedd mewn gwahanol rannau o’r byd heddiw a disgrifiodd Oes yr Iâ dros Ewrop a Chymru 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwelir effaith Oes yr Iâ yn y tirlun, gyda’r dyffrynnoedd rhewlifol, y cymoedd, y cribau a’r dyddodion sy’n sail i’r pridd ac agregrau a ddefnyddiwn. Mae rhewlifoedd y presennol yn ffynhonnell bwysig o ddŵr ar gyfer cynhyrchu trydan dŵr ond gall y dŵr lifo i’r môr a chodi lefel y môr, fyddai wedyn yn bygwth llawer o ynysoedd a dinasoedd ar draws y byd ac yn gorfodi pobloedd i symud. Awgrymodd petai’r cap iâ ar yr Ynys Las (Greenland) yn toddi byddai Llif y Gwlff yn peidio a byddai Cymru lawer oerach.
Roedd penwythnos Drysau Agored yn brysur yn yr Amgueddfa gydag ymwelwyr o bell ac agos. Diolch i bawb a gefnogodd ein Bore Coffi ar y dydd Sadwrn.
Mae ein Boreau Crefftau ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis yn tyfu mewn poblogrwydd, ac mae oedolion yn ogystal â phlant yn dod erbyn hyn. Eirin oedd thema Bore Crefftau mis Hydref gan ei fod yn cyd-daro â diwrnod Gŵyl Eirin Dinbych. Yn y llun cyntaf, mae Tomos, Eva, Imogen a Zoe yn creu eirin o glai.
A dyma’r gwaith gorffenedig.
Yn y llun nesaf, gwelir Judith a Heather yn peintio bagiau siopa cotwm â lluniau o eirin a phethau hydrefol eraill, o dan arweiniad Avril. Diolch i Carole am drefnu.
Hoffem ddiolch i’n Mentor Amgueddfeydd Susan Dalloe am ei harweiniad a’i chymorth i ni ers cychwyn Gwefr heb Wifrau. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi symud i swydd newydd yn Llundain. Croesawn Carly Davies fydd yn cymryd ei lle ac edrychwn ymlaen i gydweithio efo hi.
Hoffem ddiolch i Clwyd Wynne am fod yn Gadeirydd y Pwyllgor am rai blynyddoedd. Gwerthfawrogwn ei gyfraniad i ddatblygiad yr Amgueddfa. Croesawn Carole Lomax fel Cadeirydd newydd a diolchwn iddi hi am ei gweithgarwch ar ran yr Amgueddfa.
Yn ogystal, diolch i’r gwirfoddolwyr newydd sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar.
Croeso i bawb i’n cyfres ddarlithiau am 7.00 o’r gloch nos Wener yn yr Amgueddfa:
Ar Dachwedd 15fed, bydd David Roberts yn sôn am
“Edau ar draws y cefnfor, y cebl Trawsiwerydd cyntaf”.
Ar Ragfyr 13eg, bydd David Crawford yn cyflwyno
“Noson o Gerdyn Prawf y BBC a’r gerddoriaeth”.
Noson y Curadur yw Ionawr 17eg, a bydd David Crawford yn siarad am “Y Transistor”.
Bwriadwn gynnal Noson Gwis hefyd yn y dyfodol agos. Gwyliwch y wefan am fanylion.
Bydd ein Bore Coffi Nadolig â Stondinau ar Ragfyr 7fed yn Eirianfa, ar y cyd â Mind Dyffryn Clwyd a Gild Eglwys St. Tomos, 10.00-12.00. Croeso cynnes i bawb fel arfer.