Hanes

Hanes yr amgueddfa

 

Ffurfwyd Gwefr heb Wifrau i ddathlu rhan Cymru yn esblygiad radio a darlledu.  Mae'r amgueddfa yn dal casgliad bychan ond amrywiol o ddyfeisiadau radio a gwybodaeth.  Rydym yn arddangos setiau radio prin a rhai'n cynrychioli cyfnodau mewn trefn amser.

 

Canlyniad breuddwyd a gweledigaeth un dyn, David E. Jones yw'r amgueddfa.  Roedd David yn gasglwr setiau radio am y rhan fwyaf o'i oes.  Ysywaeth, bu farw ychydig wythnosau cyn gwireddu ei freuddwyd o agor arddangosfa Gwefr Heb Wifrau a chyhoeddi ei lyfr sy'n sail i lawer o'r arddangosfa.

 

Cofiwn David fel dyn addfwyn o argyhoeddiad cryf.  Bu'n ymgyrchu dros sawl achos a'i etifeddiaeth barhaol yw sefydlu Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych yn 1990.

 

Casglu setiau radio oedd ei hobi personol a gafodd ei integreiddio ganddo gyda'i ymroddiad dros Gymru a pharhad yr iath Gymraeg.  Roedd ganddo weledigaeth eang ac unigryw a arweiniodd at greu'r amgueddfa a'i lyfr Gwefr Heb Wifrau.  Saif yr amgueddfa a'r llyfr yn dysteb iddo.