Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Atal y Wasg

 
Bydd yr Amgueddfa ar agor bob dydd Llun a dydd Sadwrn yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst, 11.00-15.00

 

 

 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewngofnodi

Digwyddiadau yn yr Amgueddfa 2019 - 2020

CYFRES O SGYRSIAU A DIGWYDDIADAU YN AMGUEDDFA GWEFR HEB WIFRAU DINBYCH 2019 – 2020

 

MEDI 2019

Dydd Gwener 20 Medi: 7yh - 9yh: “What glaciers have done for us”: Siaradwr: Dr Frank Nicholson 

 

 

HYDREF 2019

Dydd Gwener 18 Hydref  7yh - 9yh: “Thomas Telford and his Chirk to Holyhead Road”  Siaradwr: David Richards

    

 

TACHWEDD 2019

Dydd Gwener 15 Tachwedd: 7yh - 9yh: “A Thread Across the Ocean, the first Transatlantic cable”: Siaradwr: David Roberts

 

 

Ragfyr 2019

Dydd Gwener 13 Ragfyr 7yh - 9yh: “Music on the Air” Siaradwr: Ken Taylor

 

 

IONAWR 2020  

Dydd Gwener 17 Ionawr: 7yh - 9yh “Noson y Curadur”  "The Transistor"  Siaradwr:  David Crawford

 

 

CHWEROR 2020

Dydd Gwener 21 Chwefror: 7yh - 9yh: “Construction of the Conwy Tunnel”  Siaradwr: John Barr

 

 

MAWRTH 2020

Dydd Gwener 20 Mawrth: 7yh - 9yh: Darlith flynyddol  David Edward Hughes  “The Cartographer Humphrey Llwyd of Foxhall” Siaradwr: Dr Hywel Watkin

 

 

EBRILL 2020

Dydd Gwener  3 Ebrill: 7yh - 9yh: “Sacred Welsh Wells - a living link to the pagan past”: Siaradwr: Mike Farnworth

 

 

MAI 2020

Dydd Gwener 15  Mai: 7yh - 9yh: “Researching your family history”: Siaradwr: Alison Bromley

 

 

MEHEFIN 2020

Dydd Gwener 19 Mehefin: 7yh - 9yh. “Our Wild Coast”  Siaradwr: Eurig Jones

 

 

EDRYCHWCH AR Y WEFAN YN GYSON AM FWY O WYBODAETH OS GWELWCH YN DDA

Diweddariad misol, Mai 2019

Diweddariad misol, Mai 2019

 

Chris Lees oedd siaradwr gwadd ein darlith ym mis Ebrill.  Mae Chris yn nofiwr tanddwr profiadol ac yn 1998 bu’n nofio mewn bae yn agos i Ynysoedd Hallaniyat, ger arfordir deheuol Oman.  Amcan y fenter oedd archwilio gweddillion llong y City of Winchester a suddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.  Roedd taid Chris, Alan Lees, yn Swyddog Radio ifanc ar y llong a chadwodd ddyddiadur manwl iawn o’r cyfnod.    Roedd y City of Winchester ar ei ffordd adre o Calcutta yng Ngorffennaf 1914, yn cario llwyth o de, pan dderbyniodd neges o’r Llywodraeth i ddweud y dylai ddiffodd ei golau a mynd i’r porthladd Prydeinig agosaf, oherwydd cychwyn rhyfela.  Cyn llwyddo i wneud hyn, cipiwyd y llong gan long Almeinig y Königsberg a’i suddo, ar ôl trosglwyddo’r teithwyr a’r cargo.  Rhyddhawyd Alan Lees i ddwylo cyfeillgar a llwyddodd i gyrraedd gartref.  Yn 1998 cafodd Chris gyfle i ymuno â thîm oedd yn mynd i ymweld â’r llong ar waelod y môr, gan wireddu breuddwyd oes iddo.  Yr unig beth roedden nhw’n medru ei adnabod fel rhan o long, ar ôl yr holl flynyddoedd, oedd y rheiliau, a photel gwrw a welir yn y llun, ond mae’r gweddillion yn gartref i gwrel ac algâu bendigedig erbyn hyn. Buon nhw’n aros mewn pentref ar un o’r ynysoedd folcanig cyfagos ac yn cynnal sesiynau addysg i’r plant.  Erbyn hyn mae’r ardal wedi cael ei dynodi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn cael ei hamddiffyn.

 

 Bu nifer o grwpiau yn ymweld â’r Amgueddfa yn ddiweddar.  Daeth dosbarth Astudiaethau’r Cyfryngau o Goleg Cambria,

 Llaneurgain, i dreulio’r prynhawn yn astudio’r casgliad.  Daeth grwp Glannau Merswy a Gorllewin Swydd Gaer y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg i wrando ar gyflwyniad i’r Amgueddfa ar brynhawn arall.  Roedden nhw wrth eu boddau.  A bu David yn siarad am Sefton Delmer efo Clwb Rotary Dinbych ym Melin Brwcws

 

 

 

 

 


Yn y lluniau nesaf, gwelir arddangosyn diweddaraf casgliad Gwefr heb Wifrau, sef Radio Transistor Cludadwy o 1956 gyda’i gas lledr gwreidddiol.  Dyma un o’r radios transistor cynnar, a wnaethpwyd gan RCA Victor yn Efrog Newydd ac mae’n cynnwys pedwar transistor.  Y Regency TR1 oedd y radio transistor cyntaf a chynhyrchwyd hwnnw yn UDA yn 1954.  Gwerthwyd 400,000 ohonynt yn y flwyddyn gyntaf.  Roedd perfformiad y radio yn wael, ond roedd yn gychwyn i’r chwyldro transistor a arweiniodd at y byd technolegol rydym yn byw ynddo heddiw.

 

 

 

 

 

Mae Gwefr heb Wifrau a Phopeth Cymraeg yn cefnogi ymgais Dinbych yn Blodeuo yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau ac wedi tacluso’r ‘ardd’ wrth y brif fynedfa!

 

 

 

  

 
Bydd ‘na ddwy ddarlith yn ein cyfres ar nos Wener am 19.00 cyn yr haf:
Mai 17eg, Sue Clark yn siarad am “Golygu a Thrin Ffotograffiaeth”.
 
Mehefin 21ain, Mike Farnworth yn siarad am “Y Cymry yn Lerpwl”.

 

Fel rhan o Wyl Ganol Haf Dinbych, byddwn hefyd yn cynnal: 
Bore Coffi Haf a Stondin Blanhigion yn yr Amgueddfa, 01/06/19, 10.00-12.00. 
Bore Crefftau i blant 6-12 oed, 01/06/19, 10.30-12.30.  Cysylltwch â’r Amgueddfa i gadw lle:
Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

Noson Gwis, 11/06/19, 19.00 – 21.00 – nodwch y dyddiad newydd!
Diwrnod Technegol Ymarferol i Deuluoedd, 15/06/19, 11.00-15.00.
Croeso cynnes i bawb.

Diweddariad misol, Mehefin 2019.

 

Roedd cyffro mawr yn yr Amgueddfa yn ddiweddar wrth i ni dderbyn ar fenthyg un o’r arddangosion prinaf erioed, sef Phonograph Idelia Edison, rhif 65794, o 1908.  Cynhyrchwyd llai na 500 ohonynt ac mae’n bosib bod hwn yn un o’r rhai prin sydd ar ôl yn ei ffurf wreiddiol.  Mae ganddo gorn ‘cygnet’ mahogani a stylus saffir, nid dur.  Mae’n chwarae silindrau Amberol Edison dau funud a phedwar munud ac mae tua 70 ohonynt yn y casgliad a roddwyd benthyg i ni, yn cynnwys ‘The Trail of the Lonesome Pine’ gan Romain – gweler y llun.  Mae Martyn wedi llwyddo i gael y Phonograph i weithio ac rydym wedi darganfod cwmni yn UDA sy’n medru cyflenwi tiwb rhwber newydd i gysylltu’r corn â’r Phonograph.

 

Mae nifer o recordiau 78RPM Cymraeg o’r 1930-40au yn y casgliad hefyd, gan gynnwys David Lloyd yn canu Aberystwyth, fel y gwelir yn y llun, a Jac a Wil yn canu ‘O Dwed wrth Mam rwy’n dyfod’ ar label Gymraeg Qualiton.

 

“Golygu a Thrin Ffotograffiaeth” oedd testun Sue Clark pan ddaeth i sgwrsio efo ni yn ystod mis Mai.  Cyfeiriodd at yr ymadrodd, “Dydy’r camera byth yn dweud celwydd”, ond erbyn diwedd y noson, roeddem i gyd o’r farn nad yw’n bosib credu yr hyn a welwn mewn ffotograff.  Roedd ganddi nifer o luniau i’w dangos i ni, gan gynnwys y ffotograff cyntaf i gael ei newid, neu ei ‘olygu’, erioed, yn 1846.  Ers hynny, defnyddiwyd nifer o wahanol ffyrdd o olygu a thrin ffotograffau.  Un o’r dulliau cyntaf oedd peintio’r negatif cyn argraffu, ac felly roedd hi’n bosib ychwanegu pethau at y llun gwreiddiol.  Arweiniodd hyn at nifer o straeon am ysbrydion, ac hyd yn oed am anghenfil mewn llyn yn yr Alban.  Roedd hi hefyd yn bosib i ddileu rhywbeth, fel sigarét yn llaw Paul McCartney, neu i newid rhywbeth yn y ffotograff gwreiddiol trwy beintio.  Yn ystod y cyfnod Fictoriaidd pan oedd pobl yn anfodlon gyda’r portread a dynnwyd ohonynt gan y ffotograffydd, roedd ‘retouchist’ wrth law i wella’r lluniau.  

Dull arall o olygu ffotograffau oedd tynnu mwy nag un llun a’u cyfuno; enghraifft nodedig oedd llun ‘The two ways of life’ a grewyd o 32 negatif dros chwe wythnos.  Arweiniodd hyn at greu ffotograffau cyfansawdd, trwy dorri lluniau a’u gosod at ei gilydd a chreu collage.  Roedd hon yn ffordd ddefnyddiol o greu llun o dyrfa o bobl, megys myfyrwyr coleg.  Roedd hefyd yn ffordd dda o gynhyrchu propaganda a chynhyrchwyd llawer o montages dychanol rhwng y ddau ryfel byd.

 

Meddalwedd ar gyfrifiadur sy’n gyfrifol am olygu ffotograffau erbyn heddiw, ac mae’n cael ei defnyddio yn eang ac yn llwyddiannus iawn, yn aml gyda chanlyniadau annisgwyl, difrifol iawn ymhlith yr ifanc wrth iddyn nhw weld cyrff gor-denau eu harwyr.  Ydy wir, mae’r camera yn gallu dweud celwydd!

 

 

 

Croeso cynnes i bawb i’n digwyddiadau yn yr Amgueddfa yn ystod yr Wyl Ganol Haf:
11/06/19, Noson Gwis, 19.00 – 21.00.
15/06/19, Diwrnod Technegol Ymarferol i Deuluoedd, 11.00-15.00.
21/06/19, darlith gan Mike Farnworth ar “Y Cymry yn Lerpwl”, 19.00.

 

 

 

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu hamlygu.

 

 

 

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo