Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Atal y Wasg

 
Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Gwener, 01/02/2020. 
11:00 - 15:00

 

Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn, 01/02/2020. 
11:00 - 15:00

 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

Mewngofnodi

Diweddariad misol, Rhagfyr 2019

Diweddariad misol, Rhagfyr 2019

 

 Diolch i David Roberts, Amatur Radio sy’n ymwelydd cyson â’r Amgueddfa, a gyflwynodd ddwy ddarlith i ni yn ddiweddar, un ar fyr rybudd oherwydd amgylchiadau annisgwyl.  ‘Stori’r Haul’ oedd testun ei ddarlith gyntaf a dechreuodd trwy sôn am bwysigrwydd yr haul i bobl trwy hanes.  Yn yr Hen Aifft, er enghraifft, roedd pobl yn addoli’r haul fel duw; galwyd Louis XIV o Ffrainc yn yr ail ganrif ar bymtheg yn ‘Frenin Haul’ ac mae gan 14 o faneri cenedlaethol lun yr haul arnynt ar hyn o bryd.  Soniodd am ddatblygiadau gwyddonol yn astudiaethau’r haul dros y canrifoedd, yn arbennig yng nghyfnod y Dadeni.  Sylweddolodd Copernicus mai’r haul oedd canolbwynt cysawd yr haul, ac nid y ddaear fel y credwyd ynghynt.  Yn 1608, dyfeisiodd Hans Lipperhey delesgop, ac yn 1609 cynhyrchodd Galileo Galilei ei ‘perspective glass’ a chael ei garcharu yn ei gartref gan yr ‘Inquisition’ am wneud.  Yn 1661, sefydlodd Brenin Siarl II y Gymdeithas Frenhinol (i Wella Gwybodaeth Naturiol), ac un o’i sylfaenwyr oedd Newton a oedd yn cynnal arbrofion ar olau.  Sefydlodd y Brenin Arsyllfa Brenhinol Greenwich hefyd yn 1676 ar gyfer mordwyo.  Aeth David ymlaen wedyn i sôn am astudiaethau mwy diweddar ar yr haul a phlanedau eraill, gan gyfeirio at chwiliedyddion solar sy’n tynnu lluniau o’r haul wrth fynd heibio – mae rhai ohonyn nhw yn dal i fod mewn orbit.  Mae telesgop gofod Hubble wedi dangos lleoliad y ddaear a chysawd yr haul yn ein galaeth ni – mae’r ddaear yn yr ardal drigiadwy sy’n cael ei galw yn ardal ‘goldilocks’.  Gorffennwyd y ddarlith gyda sesiwn fywiog iawn o gwestiynau, oedd yn dangos gwybodaeth eang a diddordeb y gynulleidfa yn y maes. 

 

 

"Edau ar draws y cefnfor, y cebl Trawsiwerydd cyntaf” oedd testun ail ddarlith David, pan roddodd grynodeb i ni o’r ymdrechion i gysylltu de-orllewin Iwerddon â dwyrain Canada trwy’r telegraff.  Fredric Newton Gisbourne oedd y cyntaf i gychwyn ar y gwaith trwy osod cebl o St. John’s i Halifax yn ne-ddwyrain Canada yn 1852.  Yn 1857 dan nawdd Cyrus West Field, dechreuwyd arbrofi ar Gefnfor yr Iwerydd. Yn y ddwy ymgais gyntaf, anfonwyd dwy long yn cario milltiroedd o gebl yr un, i gyfarfod yng nghanol y cefnfor a dechreuwyd gollwng y cebl i’r môr wrth iddynt deithio nôl i’w porthladdoedd, ond methiant fu.  Yn 1858 llwyddwyd i osod y cebl yn ei le, ac anfonodd Brehnines Fictoria neges at Arlywydd UDA a derbyn ateb, ond torrodd y cebl yn fuan wedyn.  Thomas Brassey noddodd y bedwaredd ymgais yn 1865, pan ddefnyddiwyd un llong yn unig, ond roedd nam ar y cebl hwnnw hefyd.  Yn 1866 cynhyrchwyd cebl newydd a hwnnw oedd y “cebl Trawsiwerydd cyntaf” a alluogodd negeseuon i gael eu hanfon o Iwerddon i Ganada ac yn ôl.  Cyrus West Field oedd yn gyfrifol am yrru’r maen i’r wal trwy ei ddyfalbarhad dros y blynyddoedd, ac erbyn ei farwolaeth roedd 10 cebl ar draws yr Iwerydd yn cario ‘traffig’ cynyddol.

 

 

Yn More Crefftau fis Tachwedd, bu Carole yn dangos sut mae addurno poteli a gosod golau tu mewn iddyn nhw.  Yn y llun cyntaf, mae Imogen, Ann, Tomos ac Eva wrthi yn ddiwyd.  Yn yr ail lun, maen nhw’n arddangos eu poteli nhw, a rhai Hannah a Katie hefyd.  Mae ’na le i un neu ddau arall i ymuno â ni ar y Boreau Crefftau hyn ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis, os ydych yn dymuno.

 

Croeso i bawb i’n cyfres ddarlithiau am 7.00 o’r gloch nos Wener yn yr Amgueddfa:

 

Ar Ragfyr 13eg, bydd David Crawford yn cyflwyno “Noson o Gerdyn Prawf y BBC a’r gerddoriaeth”.

 

Noson y Curadur yw Ionawr 17eg, a bydd David Crawford yn siarad am

“Y Transistor”.

 

Ar Chwefror 21ain, bydd John Barr yn siarad am

“Adeiladu Twnel Conwy”.

 

Ar Fawrth 20fed, bydd Dr. Hywel Watkin yn cyflwyno Darlith Flynyddol David Edward Hughes, ac yn siarad am

“Humphrey Llwyd y Cartograffwr o Foxhall”.

 

 

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu hamlygu.

 

"Construction of the Conwy Tunnel"

Sgwrs gan: John Barr

21/02/2020 : 19:00

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo